SL(6)465 - Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.)  2010 (“Rheoliadau 2010”) i weithredu Rhan 3 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (“Deddf 2022”). Mae Rhan 3 o Ddeddf 2022 yn diwygio Deddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”) ac yn diffinio’r cwmpas a’r darpariaethau ar gyfer y gyfundrefn yn ystod cyfnod dylunio ac adeiladu adeiladau risg uwch. Mae hefyd yn darparu ar gyfer cofrestru arolygwyr adeiladu a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu i reoleiddio’n well a gwella lefelau cymhwysedd yn y sector rheolaeth adeiladu.

Yn benodol, mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn ailenwi’r ffurflenni yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010 ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol.

Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd 16A yn Rheoliadau 2010: mae rheoliad newydd 16A yn darparu hysbysiad gwrthod.

Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer ffurflenni newydd i ganslo hysbysiad cychwynnol o dan adran 52, adran 52A ac adran 53D o Ddeddf 1984.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau 2010 ac mae rheoliad 10(g) yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2010 i gyflawni hyn.

Mae rheoliad 7 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd 18A yn Rheoliadau 2010. Mae’n darparu bod rhaid i gymeradwywr rheolaeth adeiladu cofrestredig roi hysbysiad pan fo o’r farn y dylid canslo’r hysbysiad cychwynnol o dan adran 52 o Ddeddf 1984 am dorri rheoliadau adeiladu, ynghyd ag amserlen i unioni’r achos o dorri rheoliadau adeiladu.

Mae rheoliad 8 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd 19A yn Rheoliadau 2010. Mae’n darparu cyfnodau pan fo rhaid darparu gwybodaeth am waith y mae hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef at ddibenion adran 53(4B) ac adran 53(4C) o Ddeddf 1984.

Mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod Rhan newydd 3A yn Rheoliadau 2010, sy’n cynnwys rheoliadau newydd 19B i 19F. Mae’r rheoliadau newydd hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefyllfa pan fo hysbysiad cychwynnol yn peidio â bod mewn grym a phan fo cymeradwywr rheolaeth adeiladu cofrestredig newydd yn cael ei benodi. Yn benodol, mae rheoliad newydd 19C o Reoliadau 2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr hyn sydd i’w gynnwys mewn tystysgrif trosglwyddo. Mae rheoliad newydd 19E o Reoliadau 2010 ac Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn (a fewnosodir yn Rheoliadau 2010 fel Atodlen 3A newydd) yn nodi’r seiliau dros wrthod tystysgrif trosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo. Mae rheoliad newydd 19D o Reoliadau 2010 yn rhagnodi’r cyfnod i awdurdod lleol ystyried y dystysgrif a’r adroddiad trosglwyddo. Mae rheoliad newydd 19F o Reoliadau 2010 yn nodi achosion pan ganiateir rhoi hysbysiad cychwynnol pellach ar ôl canslo hysbysiad cychwynnol o dan adran 53D o Ddeddf 1984.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau trosiannol.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Yn Rheoliad 10, gall fod yn ddefnyddiol i'r darllenydd nodi bod ffurflenni 1 i 5 yn cael eu hailenwi yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau 2024.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Efallai y bydd risg o ddryswch yn rheoliad 10(g) ynghylch lle mae'r “lle priodol, mewn trefn rifyddol”, er mwyn i'r ffurflenni newydd gael eu mewnosod. Mae'n ymddangos mai'r drefn rifyddol fyddai'r ffurflenni [rhif](w) yn gyntaf, ac yna'r ffurflenni PB[rhif](w). Fodd bynnag, yn y cyd-destun hwn, efallai y bydd rhywfaint o risg o ddryswch ynghylch ble mae'r ffurflenni newydd yn cael eu mewnosod, oherwydd bod gan y ffurflenni PB rifau ar hyn o bryd a'u bod yn cael eu hailenwi yn yr un rheoliadau, felly efallai nad yw’n gwbl glir ble y dylid mewnosod y ffurflenni newydd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

12 Mawrth 2024